Seren Hynafol Carreg Las yn cefnogi Eisteddfod 2026

Seren Hynafol Carreg Las yn cefnogi Eisteddfod 2026

Nid brethyn hardd yn unig yw'n ychwanegiad diweddaraf at ein hamrywiaeth o Seren Hynafol, mae'n deyrnged i'n treftadaeth Gymreig. Crëwyd brethyn Seren Hynafol Carreg Las, Rhifyn Cyfyngedig i gefnogi Eisteddfod Genedlaethol 2026.

I'r rhai y tu allan i Gymru nad ydynt efallai'n gyfarwydd â’r cysyniad, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad blynyddol o gelfyddyd, iaith a diwylliant Cymru. Hon yw gŵyl fwyaf Cymru. Caiff yr ŵyl ei hariannu'n bennaf gan y gymuned sy'n cynnal yr ŵyl, gyda phentrefi a threfi ledled y rhanbarth yn dod at ei gilydd i drefnu gweithgareddau a chodi arian.

Bydd 10% o werthiant Seren Hynafol Carreg Las yn help i ariannu Eisteddfod 2026

Mae ein pwyllgor lleol yn cynrychioli ardal Mathri, Pencaer, a Thremarchog yn Sir Benfro, ac rydym yn falch o gefnogi'r gymuned hon yn eu hymdrechion i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod. Fel Ymddiriedolaeth Perchnogaeth i Weithwyr, mae creu swyddi i drigolion lleol, hybu'r economi leol, a chefnogi cymunedau cyfagos yn ganolog i'n gwerthoedd. Felly, byddwn yn rhoi 10% o'r holl werthiant o flancedi, carthenni, a chlustogau yn nyluniad Seren Hynafol Carreg Las, Rhifyn Cyfyngedig i helpu ariannu y digwyddiad y flwyddyn nesaf.

Beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod? Mae'n ŵyl o gystadlaethau a pherfformiadau sy'n cynnwys canu, dawnsio, ysgrifennu a cherddoriaeth Gymreig, gyda chyfranogwyr o bob oed o bob cwr o Gymru. Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i fusnesau Cymru i gysylltu, arddangos a gwerthu eu nwyddau a'u crefftau i'r 170,000 o fynychwyr, gan groesawu cymunedau o Gymru a thu hwnt.

Eleni dethlir 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf erioed

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio'n ôl i 1176, sy'n golygu bod digwyddiad 2026 yn nodi 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf un – carreg filltir nodedig.
Bob blwyddyn, mae'r Eisteddfod yn newid ei lleoliad rhwng gogledd a de Cymru, ac yn 2026, bydd yn cael ei chynnal yma yn ein sir hardd. Mae ysbryd yr Eisteddfod wedi'i grisialu’n hyfryd yng ngeiriau'r sefydliad -‘rydym yn plethu'r newydd gyda'r hen a'r traddodiadol gyda'r modern, gan greu gŵyl wirioneddol unigryw - ein Heisteddfod Genedlaethol’. Mae’r ethos yma yn agos iawn at ein gwerthoedd ni ym Melin Tregwynt. Felly, pan ddaeth ein pwyllgor apêl Eisteddfod lleol atom gyda'r syniad o ddylunio blanced i gefnogi digwyddiad 2026, cawsom ein hysbrydoli i gymryd rhan.

Seren Hynafol Carreg Las - wedi'i ysbrydoli gan Sir Benfro

Wrth benderfynu ar y dyluniad ar gyfer brethyn Carreg Las, roedd ein patrwm Seren Hynafol yn teimlo fel y dewis perffaith. Fel un o'n dyluniadau tapestri hynaf, a gafodd ei wehyddu gyntaf yn y 1950au, mae Seren Hynafol yn batrwm trawiadol ac eiconig sy'n darlunio harddwch tecstilau traddodiadol Cymru yn berffaith.

Mae lliwiau Seren Hynafol Carreg Las yn cyd-fynd â'n brethyn poblogaidd Knot Garden Bluestone. Lansiwyd y casgliad Bluestone ar ôl ein canmlwyddiant, gan gymryd ysbrydoliaeth o liwiau ein melin a'i lleoliad. Gan ddefnyddio lliwiau y garreg leol, yr awyr, y môr a'r tir, mae Knot Garden Bluestone yn ymgorffori ysbryd Melin Tregwynt; presenoldeb cyson sy'n esblygu dros y blynyddoedd. Trwy bedair cenhedlaeth rydym wedi parhau i wehyddu patrymau traddodiadol a chyfoes Cymreig sy'n unigryw i'n melin, gan gynnal traddodiad a diwylliant Cymru wrth sicrhau bod ein dyluniadau'n parhau i fod yn berthnasol i fywyd sy'n newid.

Mae Seren Hynafol Carreg Las yn cymryd ei enw o greigiau gleision y Preseli, creigiau chwedlonol sy’n unigryw i Sir Benfro. Cafodd y cerrig llwydlas trawiadol hyn eu cludo i safle Côr y Cewri gan bobl Neolithig a oedd yn eu mudo ar draws y tir. Roedd y cerrig yn ddigon pwysig iddynt eu cymryd gyda nhw, er gwaethaf yr ymdrech enfawr oedd angen i’w symud. Mae ein dyluniad yn anrhydeddu'r cerrig hynafol yma.

Bydd eich blanced Melin Tregwynt yn addurno'ch cartref ac yn eich cadw'n gysurus, ond hefyd bydd yn caniatáu ichi fynd â darn bach o ddiwylliant a thraddodiad Cymru gyda chi. Mae Seren Hynafol Carreg Las yn crynhoi'r syniad yma’n berffaith. Mae ein patrwm traddodiadol Cymreig wedi'i wehyddu mewn lliwiau sy'n dwyn i gof tirwedd hynafol Sir Benfro ac yn creu atgof cysurus o gartref. Mae lliw cefndir tawel a daearol y brethyn, mewn cyferbyniad â'r arlliwiau ffres ac ysbrydoledig, yn ei wneud yn gydymaith perffaith i wrthsefyll stormydd a dathliadau bywyd.

Mae ein Seren Hynafol Carreg Las, Rhifyn Cyfyngedig wedi'i wehyddu mewn Gwlân Newydd Pur meddal yn ein melin eiconig a hanesyddol yn Sir Benfro. Ar gael mewn carthenni, blancedi a chlustogau, gyda'i ddyluniad brethyn dwbl gwrthdroadwy, gallwch chi adnewyddu'ch ystafell yn hawdd i adlewyrchu'r tymhorau newidiol.  

Siopwch am Seren Hynafol Carreg Las.

Back